dydd Sadwrn Mehefin 6th – dydd Sul Mehefin 14th, 2026
Cynhelir Gŵyl Geiriau Wrecsam – gŵyl lenyddol gyda gwahaniaeth – am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol, o ddydd Gwener 24 Ebrill tan ddydd Gwener 1 Mai 2026. Gan fod yr ŵyl eleni yng nghanol dathliadau 150 mlynedd ers ein Blwyddyn Ryfeddod, rydym wedi cynnwys digwyddiadau llenyddol arbennig sy’n gysylltiedig â 1876.
Bydd ein noson agoriadol yn cynnwys yr awdur Matthew Harffy a fydd yn siarad am ei nofel gowboi, Dark Frontier, a hefyd am rai o’r digwyddiadau enwog a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn dyngedfennol honno – ond yn y Gorllewin Gwyllt.
Ar ddydd Sadwrn 25 Ebrill 2026, bydd y sesiwn Readathon boblogaidd yn dychwelyd gyda phwyslais ar rai o’r cyhoeddiadau enwog hynny o 1876 – Hunting of the Snark gan Lewis Carroll, Laughable Lyrics gan Edward Lear ac Adventures of Tom Sawyer gan Mark Twain.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos bydd cyfarwyddwr yr ŵyl, Dylan Hughes, yn cyflwyno cyflwyniadau am Taliesin o Eifion a Chadair Ddu Eisteddfod Wrecsam 1876.


