Dechreuodd Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam gyda diwrnod yn llawn dathliadau pen-blwydd i nodi 150 mlynedd ers creu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 2 Chwefror 1876 yn y Wynnstay. Treuliodd tîm newydd Amgueddfa Bêl-droed Cymru y diwrnod yno, yn cynnal gweithdai am y darn pwysig hwn o hanes ar gyfer sawl ysgol yn Wrecsam. Cynhaliodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei hun ei gyfarfod pen-blwydd yn y Wynnstay – digwyddiad a nodwyd gan y plac coffa wedi’i adnewyddu ar wal allanol y Wynnstay. Ac, yn Nhŷ Pawb, diddanwyd cynulleidfa orlawn gan yr awdur Peter Read, y blogiwr Georgina Gittins a’r chwaraewr canol cae (a’r Derwydd Anrhydeddus) o Wrecsam, Lili Jones, gyda straeon am hanes Cymdeithas Bêl-droed Cymru; am bêl-droed menywod Cymru yn arbennig; ac am fod yn gefnogwyr gydol oes o’r “Gêm Brydferth”.
Mae Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam yn ŵyl fydd yn cael ei chynnal trwy gydol y 12 mis nesaf ac yn dod â chyfres gyfan o bethau rhyfeddol a ddigwyddodd yma 150 mlynedd yn ôl, yn 1876, yn ôl yn fyw.