Cylch Hanes Wrecsam: Menywod Meddygol Rhyfeddol

I gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dysgwch am feddyg benywaidd cyntaf Wrecsam; nyrs Tloty Undeb Wrecsam; arloesydd mewn gofal iechyd menywod; nyrs ddewr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a meddyg arwrol o Wlad Pwyl yn yr Ail Ryfel Byd.

7 Mawrth 2026, DYDD SADWRN, 11.00am

I GOFRESTRU a derbyn CADARNHAD a NEGES ATGOFFA, e-bostiwch gais gyda’r dyddiad dewisol a chyfanswm nifer y bobl yn eich grŵp at: wrexhamhistorycircle@yahoo.com.

Mae’r holl deithiau yn addas ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ac maent yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Os bydd hi’n bwrw glaw, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol ar yr un amser. Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Bydd teithiau ar:  

  • 4 Ebrill
  • 2 Mai
  • 6 Mehefin
  • 5 Medi 

hefyd, ar bynciau diddorol eraill – byddwn yn uwchlwytho’r rheini cyn bo hir felly cadwch lygad amdanynt! 

 

 

 

Digwyddiadau

[/vc_column_inner][/vc_row_inner]
Hoffi’r erthygl hon? Rhannwch gyda’ch ffrindiau!

Digwyddiadau Eraill: