dydd Sadwrn Mehefin 6th – dydd Sul Mehefin 14th, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Wyddoch chi fod Melville Dewey wedi creu system Dosbarthiad Degol Dewey (DDC) yn 1876?
Mae’r DDC yn ddull rhifiadol a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl eu pynciau penodol ac fe’i defnyddir mewn miloedd o lyfrgelloedd ledled y byd.
Beth am gystadleuaeth?
I ddathlu 150 mlynedd o’r DDC, bydd llyfrgelloedd Wrecsam yn lansio cystadleuaeth gelf i blant ddylunio masgot i gynrychioli’r DDC.
Gallai eich cymeriad fod yn anifail, robot, archarwr, creadur hudol neu unrhyw beth rydych chi am iddo fod.
Os gallwch chi greu’r cymeriad gorau, gallech weld eich syniad yn dod yn fyw gan y bydd y dyluniad buddugol yn cael ei ddefnyddio yn ein llyfrgelloedd ledled Wrecsam.
Rwan ydi’ch cyfle i gael eich gwaith wedi’i weld gan y nifer di-ri o bobl sy’n ymweld â’u llyfrgell leol wythnos ar ôl wythnos.
Sut i gymryd rhan
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i blant rhwng 5 a 12 oed. Mae’r gystadleuaeth yn agor ar Hydref 1 ac yn cau ar Hydref 31.
Bydd yr enillwyr lwcus yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2026.
Y tri cham hawdd i gymryd rhan ydi:
- Casglwch eich ffurflen gais o’ch llyfrgell leol
- Arluniwch eich cymeriad â llaw
- Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau yn ôl i’r llyfrgell
Rhaid i’r ceisiadau fod yn waith celf gwreiddiol wedi’i dynnu â llaw ar y ffurflen gais swyddogol. Rhaid llenwi enw, oedran, manylion cyswllt a rhif cerdyn llyfrgell ar gefn y llun. Mae ceisiadau cystadleuaeth wedi’u cyfyngu i un fesul plentyn.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Gallwch ffonio 01978 292090 neu e-bostio library@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion.
Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau



