Prynwyd y mecanwaith "Ellacombe" - a gynlluniwyd i wneud canu clychau yn haws - ar gyfer tŵr St. Giles' yn ystod 1876 i ddathlu 150 mlynedd ers gosod clychau'r eglwys. Bydd 2026, felly, yn nodi 300 mlynedd ers gosod y gloch.
Copi o'r Wrexham Advertiser, 30 Rhagfyr 1876, tudalen saith (trwy garedigrwydd Archif Papurau Newydd Prydain), yn rhestru'r holl brif ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod "Blwyddyn Rhyfeddod" Wrecsam.
Marchnad gigyddion hanesyddol y Stryd Fawr - dim ond un o'r enghreifftiau gwych niferus o bensaernïaeth Fictoraidd sy'n dal i oroesi yn nghanol tref Wrecsam.
Gwesty'r Wynnstay Arms yn Wrecsam a'r plac i goffáu ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Chwefror 1876.
Cynhaliwyd yr angladd cyntaf ym Mynwent yr Ardd yn Wrecsam, a oedd newydd agor, sef claddu baban - Ethel Irene Prichard - a hynny sawl mis cyn i'r tir gael ei gysegru, ym mis Gorffennaf 1876.